Gwybodaeth Y Cyngor
Cyflwyniad o waith y Cyngor
Mae'r Cyngor Cymuned yn cynrychioli yr haenen o lywodraeth sydd agosaf at y bobol, ac mae yn atebol i'r etholwyr lleol. Mae'r Cyngor yn cynnwys saith cynghorydd etholedig ac mae yn gweithredu yn unol â pwerau a dyletswyddau statudol.
Lan hyd 1974 galwyd y Cyngor yn Gyngor Plwyf Llanwinio, ond yn dilyn Deddf Llywodraeth Leol 1972 fe elwir yn Gyngor Cymuned Llanwinio,
Mae'r Cyngor yn atebol i bobl lleol ac mae ganddo ddyleltswydd i gynrychioli buddion pob rhan o'r gymdeithas yn gyfartal. Gwaith y Cyngor yw i hyrwyddo yr ardal leol, cynrychioli ei fuddianau a cefnogi gwaith grwpiau cymunedol lleol. Mae'r Cyngor yn ceisio sicrhau bod y perspectif lleol yn cael ei ystyried pan fod penderfyniadau sydd yn effeithio y gymuned yn dod o'i flaen.
Mae'r Cyngor yn gweithio'n agos gyda Cyngor Sir Caerfyrddin i gynrychioli buddiannau'r gymuned.
Yn ystod 2017/18 mae'r Cyngor Cymuned wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth efo Cyngor Sir Caerfyrddin i wella mynediad cyhoeddus i lwybrau troed ar draws Llanwinio. Darperir diweddariad o'r datblygiadau yn hwyrach yn y flwyddyn.
Hoffem atgoffa holl dirfeddianwyr sy a llwybrau troed yn croesi eu tir fod hawl gan unrhyw aelod o'r cyhoedd gerdded unrhyw lwybr troed cyhoeddus ar unrhyw bryd ac ei fod yn anghyfreithlon i wrthod mynediad neu i aflonyddu unrhyw berson sy'n defnyddio llwybr troed cyhoeddus yn gyfreithlon.
Os oes unrhyw lwybrau cyhoeddus yr hoffai aelodau o'r cyhoedd eu gweld yn cael blaenoriaeth yn 2018/19 fe fyddem yn falch i glywed wrthoch. Cysylltwch a Kevin Bowen, clerc i'r Cyngor Cymuned os gwelwch yn dda. Manylion cyswllt ar y wefan.
Mae Cyngor Cymuned Llanwino yn darparu'r gwasanaethau canlynol:
- talu am y trydan a ddefnyddir yn Neuadd Gymunedol Llanwinio.
- hysbysfyrddau ar gyfer gwybodaeth cyhoeddus
- seddu cyhoeddus a llochesu bws.
- goleuadau stryd.
- carreg goffa'r rhyfel.
- talu am y dwr â ddefnyddir yng nghae chwarae Blaenwaun.